Croeso i Nyth
Gwneud Cymru’n Glyd
Cynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yw Nyth. Mae’n anelu at leihau nifer y cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd a gwneud cartrefi Cymru’n gynhesach a defnyddio tanwydd yn fwy effeithiol.
Os ydych yn poeni am gostau cynhesu eich cartref, gallwch ffonio 0800 512 012 yn rhad ac am ddim o linell dir neu 0300 456 2655 o ffôn symudol. Gall ein hymgynghorwyr Nyth cyfeillgar roi cyngor i chi ar:
- Arbed ynni
- Rheoli arian
- Gwneud yn siŵr eich bod ar y cynllun tanwydd gorau i chi
- Ac a oes gennych hawl i unrhyw fudd-dal i gynyddu eich incwm.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwella'ch cartref, yn rhad ac am ddim, i helpu ei wneud yn gynhesach ac i leihau eich biliau ynni.
Mae cymorth Nyth ar gael i bawb yng Nghymru.







